Archwilio Arferion Grwpio Dysgwyr mewn Ystafelloedd Dosbarth yng Nghymru
Open Access
- 30 May 2025
- journal article
- Published by University of Wales Press/Gwasg Prifysgol Cymru in Cylchgrawn Addysg Cymru / Wales Journal of Education
- Vol. 27 (1)
Abstract
Nid oes llawer o waith ymchwil wedi cael ei wneud ynghylch arferion grwpio dysgwyr mewn ystafelloedd dosbarth yng nghyd-destun Cymru. Nod y gwaith ymchwil archwiliadol hwn yw darparu gwybodaeth am arferion grwpio ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a phenderfyniadau addysgwyr parthed y dysgwyr hyn. Yn ogystal, ceisiodd yr astudiaeth ddod o hyd i wybodaeth am newidiadau i arferion grwpio yn ystod pandemig COVID-19, a blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol. Casglwyd data trwy ddefnyddio arolwg ar-lein o Gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) mewn ysgolion cynradd ac uwchradd (n=102) yng Nghymru. Datgelodd y canfyddiadau mai grwpiau gallu cymysg oedd yr arfer grwpio mwyaf cyffredin ar gyfer pynciau cyffredinol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Yn debyg i’r ffigurau sydd i’w gweld mewn rhannau eraill o’r DU, roedd yr arferion grwpio dysgwyr ar gyfer y pynciau craidd yn y ddau gyfnod oedran yn seiliedig ar gyrhaeddiad. Dewiswyd ystod eang o arferion grwpio, a oedd yn cynnig cymorth ar gyfer dysgu academaidd, gyda llai o bwyslais ar ddewis dysgwyr neu grwpiau yn seiliedig ar sgiliau cymdeithasol. Roedd hyn yn wir am ddysgwyr ag ADY a dysgwyr heb ADY, ac mae’r ffigurau hefyd yn dangos cynnydd mewn arferion grwpio ar sail cyrhaeddiad ar gyfer plant iau. Cododd CADY bryderon am safon y ddarpariaeth ADY yn ystod y pandemig a’r angen i symud tuag at fwy o ymyriadau sy’n canolbwyntio ar blant ac ar sgiliau cymdeithasol. Trafodir goblygiadau’r astudiaeth ac argymhellion ar gyfer y dyfodol.Keywords
This publication has 23 references indexed in Scilit:
- Low attainment in mathematics: An analysis of 60 years of policy discourse in EnglandThe Curriculum Journal, 2021
- The impact of tracking by attainment on pupil self-confidence over time: demonstrating the accumulative impact of self-fulfilling prophecyBritish Journal of Sociology of Education, 2020
- Teacher ‘quality’ and attainment grouping: The role of within-school teacher deployment in social and educational inequalityTeaching and Teacher Education, 2019
- “My math lessons are all about learning from your mistakes”: how mixed-attainment mathematics grouping affects the way students experience mathematicsEducational Review, 2018
- Randomised controlled trials (RCTs) in education research –methodological debates, questions, challengesEducational Research, 2018
- Why is it difficult for schools to establish equitable practices in allocating students to attainment ‘sets’?British Journal of Educational Studies, 2018
- Attainment Grouping as self-fulfilling prophesy? A mixed methods exploration of self confidence and set level among Year 7 studentsInternational Journal of Educational Research, 2017
- Prevalence of streaming in UK primary schools: evidence from the Millennium Cohort StudyBritish Educational Research Journal, 2013
- Secondary school pupils' preferences for different types of structured grouping practicesBritish Educational Research Journal, 2006
- What are the effects of ability grouping on GCSE attainment?British Educational Research Journal, 2005