Datblygiad Addysg Gymraeg ers Datganoli
Open Access
- 29 November 2024
- journal article
- Published by University of Wales Press/Gwasg Prifysgol Cymru in Cylchgrawn Addysg Cymru / Wales Journal of Education
- Vol. 26 (2)
Abstract
Bwriad yr erthygl hon yw ystyried rhai o’r ffactorau mwyaf allweddol a fu ar waith ym meysydd polisi Addysg a’r Gymraeg yn ystod y pum mlynedd ar hugain o dan sylw. Bydd yr erthygl yn dadansoddi’r cyd-destun datblygu polisi ynghyd â chyflwyno data, gan ganolbwyntio ar addysg statudol, ers datganoli pwerau i Gymru. Ystyrir y berthynas rhwng portffolio’r Gymraeg a phortffolio Addysg ar y lefel genedlaethol fel y cawsant eu dyrannu gan Brif Weinidogion Cymru oddi ar 1999. Yn ogystal, rhoddir sylw i’r gwaith o ddatblygu strategaethau yn y meysydd hyn, wrth gydnabod pwysigrwydd addysg ym maes polisi a chynllunio iaith. Ni fwriedir cynnig dadansoddiad critigol o’r holl ddogfennaeth strategol a gyhoeddwyd yn ystod y chwarter canrif, eithr cyfeirir at ddetholiad o’r meysydd a’r themâu a flaenoriaethwyd ar gyfer datblygu polisi a strategaeth ym maes addysg Gymraeg. Yn nghyd-destun y meysydd uchod, archwilir y datblygiad – neu’r diffyg datblygiad – yng Nghymru dros y cyfnod mewn cymhariaeth â’r hyn a ddigwyddodd yng Nghymuned Awtonomaidd Gwlad y Basg yn ystod yr un cyfnod. Yn olaf, tafolir hyd a lled Bil y Gymraeg ac Addysg, gan ystyried ai drwy gyfrwng y Bil hwn y bydd modd cyrchu’r taflwybr angenrheidiol i gyrraedd at dargedau strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr (Llywodraeth Cymru, 2017a).Keywords
This publication has 5 references indexed in Scilit:
- Tuag at y continwwm iaith: Diffiniadau a goblygiadau ar gyfer cyflwyno'r Gymraeg yn y cwricwlwm newydd i GymruCylchgrawn Addysg Cymru / Wales Journal of Education, 2023
- Working towards diagnosing bilingual children's language abilities: issues for teachers in WalesCylchgrawn Addysg Cymru / Wales Journal of Education, 2022
- Exploring bilinguals’ social use of language inside and out of the minority language classroomLanguage and Education, 2011
- Language Planning in Local Contexts: Agents, Contexts and Interactions2008
- Reversing Language Shift: Theoretical and Empirical Foundations of Assistance to Threatened LanguagesThe Modern Language Journal, 1992